Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor

Arolwg ‘Iechyd a phrofiadau yn nes ymlaen mewn bywyd yng Nghymru’

Mae’r astudiaeth ymchwil yn cael ei chynnal gan DJS Research Limited, (cwmni ymchwil i'r farchnad annibynnol) ar ran Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Phrifysgol John Moores, Lerpwl.

Mae’r astudiaeth hon wedi’i llunio i ddarparu gwybodaeth am brofiadau yn nes ymlaen mewn bywyd yng Nghymru. Bydd yr astudiaeth yn ein helpu i ddeall sut y gall profi adfyd – fel cam-drin neu wahaniaethu – yn nes ymlaen mewn bywyd (ar ôl 60 oed) effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant. Mae’r astudiaeth yn bwysig gan y bydd yn gwella ein dealltwriaeth o sut y gallwn gefnogi aelodau hŷn ein cymdeithas yn well.

Mae aelwydydd yn cael eu dewis ar hap i’w cynnwys yn yr astudiaeth. Bydd preswylwyr sy’n 60 oed neu’n hŷn o gartrefi dethol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Dim ond un person o bob aelwyd a ddewisir sy’n gallu cymryd rhan.

Dylai gymryd tua 20 munud i lenwi’r holiadur.

Bydd ymchwilwyr hyfforddedig o DJS Research Limited yn helpu cyfranogwyr i lenwi’r holiadur. Bydd unigolion yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sensitif eu hunain heb i’r ymchwilydd nac unrhyw un arall weld eu hatebion.

Bydd yr holiadur yn gofyn am rywfaint o wybodaeth gyffredinol, megis oedran, statws cyflogaeth a strwythur teuluol. Yna bydd yn gofyn cwestiynau am iechyd a gofal iechyd, derbyn a rhoi gofal, a phrofiadau yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys cwestiynau sensitif am brofiadau o gam-drin, gwahaniaethu neu feddwl am hunanladdiad. Gellir ateb y cwestiynau hyn yn breifat.

Bydd ymchwilwyr hyfforddedig o DJS Research Limited yn eich trin yn deg a chyda pharch.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â DJS Research yn ICC.arolwgPBH@djsresearch.com neu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ICC.arolwgPBH@wales.nhs.uk.