Sut mae Amser i Siarad am Iechyd Cyhoeddus yn gweithio?
Fel aelod o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, cewch eich gwahodd bob tri mis i gymryd rhan mewn arolwg. Mae dwy ffordd y gallwch chi gymryd rhan.
1. Ar-lein: Byddai dolen bersonol yn cael ei hanfon i'ch e-bost pan fydd arolwg yn barod. Bydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau bob tro; neu
2. Ffôn: Byddai cyfwelydd hyfforddedig o DJS Research yn eich ffonio ar amser sy'n gyfleus i chi. Bydd yn cymryd tua 15-20 munud i'w gwblhau bob tro.
Mae croeso i chi gwblhau'r arolwg yn y Gymraeg neu'r Saesneg (efallai y bydd ieithoedd eraill ar gael ar gais).
Bydd yr arolygon yn gofyn am bynciau iechyd cyhoeddus a allai effeithio ar eich iechyd ac iechyd pobl Cymru. Mae pynciau enghreifftiol yn cynnwys cyflogaeth, tai, ymddygiadau iechyd, costau byw, newid yn yr hinsawdd, brechlynnau a chymorth a gwybodaeth y gallech fod am ei defnyddio a'i derbyn.
Dweud eich dweud!
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweld y cyhoedd fel partner allweddol yn eu penderfyniadau ac mae am sicrhau bod gan bobl Cymru lais mewn polisi ac ymarfer sy’n effeithio arnyn nhw, eu cymunedau, a’u cenedl.
Pwy yw Iechyd Cyhoeddus Cymru?
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn ffenest newydd) yn un o dair Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru. Fel sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, mae’n gweithio i amddiffyn a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru. Maent yn nodi’r cyhoedd fel partner allweddol yn eu penderfyniadau ac maent am sicrhau bod gan drigolion Cymru lais mewn polisi ac arfer sy’n effeithio arnynt hwy, eu cymunedau, a’u cenedl.
Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yw un o’r ffyrdd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd, fel chi, i ddeall agweddau, barn a diddordebau pobl ar amrywiaeth o bynciau iechyd cyhoeddus.
Gwnewch wahaniaeth!
Fel aelod o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio polisi ac arfer iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ac am sut mae eich cyfranogiad yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn grŵp cynrychioliadol cenedlaethol o tua 2,500 o bobl o bob rhan o Gymru sy’n cefnogi gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Drwy rannu eu hagweddau a’u barn ar amrediad o bynciau iechyd cyhoeddus bob tri mis, maent yn helpu i lunio polisi ac arferion iechyd cyhoeddus ac yn cyfrannu at wella iechyd a llesiant ledled Cymru.
Rydym yn chwilio am bobl 16 oed a throsodd sy’n byw yng Nghymru i ymuno ag Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus!
Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gesglir gan Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn adlewyrchu pobl Cymru, mae arnom angen amrediad amrywiol o bobl o bob rhan o Gymru i gymryd rhan.
YMUNWCH HEDDIW! Gwirio a ydych chi'n cyfateb i'r grwpiau rydym yn chwilio amdanyn nhw ar hyn o bryd.
Dilynwch Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth am sut i wella eich iechyd a’ch llesiant
Cysylltwch â ni ar SiaradICCymru@djsresearch.com